Pryder am greu Parc Cenedlaethol

Pryder am greu Parc Cenedlaethol

Diweddarwyd Ionawr 2025

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu cynlluniau yn ei Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2021-2026 i ddynodi Parc Cenedlaethol newydd yn y Gogledd Ddwyrain, yn seiliedig ar Dirwedd Genedlaethol bresennol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Pe bai'n cael ei sefydlu, hwn fyddai pedwerydd Parc Cenedlaethol Cymru a'r cyntaf ers 1957. Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy'n arwain y broses werthuso.

Rhannwyd Ardal Chwilio gychwynnol yn 2023. Gofynnwyd am adborth y cyhoedd, a gwnaed addasiadau. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad diwethaf ar fap diwygiedig yr Ardal Gais rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2024. 

Roeddwn i yn y cyfarfod cyhoeddus llawn yn Neuadd Bentref Llanrhaeadr-ym-mochnant ym mis Tachwedd, lle mynychodd dros 250 o bobl, ac mi wnes i fy safbwynt yn glir. Roedd y cyfarfod, o dan gadeiryddiaeth Alun Elidyr, ffermwr a chyflwynydd ar S4C, yn tynnu sylw at wrthwynebiad lleol eang i'r cynigion i gynnwys rhannau o Ogledd Powys o fewn ffiniau'r Parc Cenedlaethol newydd.

Roedd y neges groch gan y rhai a fynychodd y cyfarfod yn glir: does dim croeso i'r cynigion i greu pedwerydd Parc Cenedlaethol yng Nghymru, i gynnwys ardal fawr o Ogledd Powys.

Ers dechrau'r cynigion, dydw i ddim wedi fy argyhoeddi y byddai Sir Drefaldwyn yn elwa. Gallai newidiadau effeithio'n andwyol ar ymdrechion arallgyfeirio ffermydd, gan gyfyngu ar gyfleoedd i fusnesau gwledig sydd eisoes dan bwysau.

Gallai mwy o dwristiaeth roi pwysau ar seilwaith lleol, gan gynnwys ffyrdd a pharcio, sydd eisoes dan bwysau sylweddol. Mae goblygiadau ariannol sefydlu Parc Cenedlaethol newydd yn peri pryder i mi, ac rwy'n credu y byddai'n well gwario'r arian ar uwchraddio'r seilwaith presennol yn hytrach nag ymchwilio i'r cynnig. Mae’n fater o flaenoriaethau.

Y prif beth i mi yw, er gwaethaf ystod eang o bryderon a chwestiynau, nad oes sicrwydd digonol wedi'i roi, ac rwy'n parhau i wrthwynebu'r cynigion.

Bydd y cyfnod ymgynghori cyhoeddus diweddar yn llywio map yr Ardal Gais. Bydd unrhyw addasiadau angenrheidiol yn arwain at ymgynghoriad statudol yn 2025. Os yw CNC yn argymell bwrw ymlaen, bydd Gorchymyn Dynodi yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer penderfyniad terfynol.