View this email in your browser
Newyddion Chwefror 2025
Croeso i'm cylchlythyr ar gyfer Chwefror 2025.
Mae’r flwyddyn wedi dechrau ar garlam, gyda materion iechyd yn amlwg iawn yn fy ngwaith a hefyd ar yr agenda newyddion.
Fel arfer, os hoffech dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw beth nad ydw i’n sôn amdano yn y cylchlythyr hwn, neu os gallaf helpu mewn unrhyw ffordd, anfonwch e-bost ataf [email protected] neu ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887.
Rhoi’r gorau i gynlluniau i wneud i
gleifion Powysaros am driniaeth
Russell George AS yn trafod Cynigion Byrddau Iechyd Powys gyda'r Prif Weinidog.
Ddechrau mis Ionawr, datgelwyd bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ystyried mesurau i fynd i'r afael â phwysau ariannol. Ymhlith y cynigion roedd cynllun i ofyn i ddarparwyr iechyd yn Lloegr arafu'r broses o ddarparu triniaeth gofal wedi'i chynllunio ar gyfer cleifion Powys.
Yr wythnos diwethaf, mewn cyfarfod o'r Bwrdd Iechyd, cytunwyd y dylid rhoi’r gorau i’r cynigion. Er ei fod yn newyddion i'w groesawu, ni ddylai'r mesurau hyn erioed fod wedi cael eu hawgrymu yn y lle cyntaf. Byddai wedi bod yn chwerthinllyd pe bai cleifion o Gymru yn cael eu gorfodi i aros yn hirach am driniaeth oherwydd cyfyngiadau ariannol, yn enwedig pan fo digon o allu i drin y cleifion hynny o fewn ysbytai'r GIG dafliad carreg dros y ffin.
Dros yr wythnosau diwethaf cefais drafodaethau gyda'r Prif Weinidog, y Gweinidog Iechyd, a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, i annog pob parti i gytuno ar ffordd ymlaen a fyddai'n arwain at beidio â gweithredu'r cynlluniau hyn. Fy ffocws yw sicrhau her, er mwyn sicrhau bod ein Bwrdd Iechyd lleol yn cael ei ariannu'n ddigonol, fel na fyddwn yn wynebu’r bygythiad hwn yn y dyfodol.
Mae fy narllediad llawn yn esbonio’n fanylach sut y gwnaethom ni gyrraedd y sefyllfa hon.
Herio penderfyniad Ambiwlans Awyr
Cymru yn y llys
Yn dilyn cais am adolygiad barnwrol a gyhoeddwyd yn yr Uchel Lys y llynedd, cynhaliwyd gwrandawiad dros ddeuddydd fis diwethaf a heriodd y penderfyniad i gau Canolfan Ambiwlans Awyr y Trallwng.
Dadleuodd y tîm cyfreithiol rydyn ni, fel grŵp ymgyrchu, wedi bod yn gweithio gyda nhw bod diffyg tryloywder yn y penderfyniad, ei fod wedi methu ag ystyried anghenion unigryw cymunedau gwledig, a’n bod yn herio'r broses a arweiniodd at y penderfyniad.
Mae'r cwmni cyfreithiol sy'n gweithio ar ein rhan wedi creu argraff arnaf. Yn wreiddiol, roedd y gwrandawiad i fod i gael ei gynnal dros ddeuddydd ym mis Ionawr ond bydd nawr yn parhau yn ddiweddarach yr wythnos hon. Yna bydd barnwr yn gwneud penderfyniad maes o law. Er nad ydym ni’n gwybod a fyddwn yn llwyddiannus ai peidio, mae pob rheswm i ni deimlo'n bositif am ganlyniad yr her hon.
Gwasanaethau strôc ym Mronglais
Cododd Russell George AS gynigion am y gwasanaethau strôc acíwt gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Yn ystod mis Ionawr, codais y cynigion i israddio gwasanaethau strôc acíwt yn Ysbyty Bronglais gyda'r Ysgrifennydd Iechyd.
Mae'n gwbl afresymol disgwyl i gleifion ym Mhowys sydd wedi dioddef strôc, gael eu trosglwyddo i Ysbyty Llwynhelyg neu Lanelli.
Gwasanaethau Bysiau Cyhoeddus
Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Powys yn ymgynghori ar gynigion a fyddai'n arwain at newidiadau i wasanaethau bysiau lleol. Mae'r cyngor wedi dweud eu bod nhw’n ceisio barn defnyddwyr bysiau’r presennol a’r dyfodol ar amserlen fysiau arfaethedig newydd, er mwyn creu gwasanaeth diwygiedig i drigolion Powys.
Fodd bynnag, mae trigolion wedi rhannu pryderon gyda mi y byddai’r newidiadau arfaethedig yn arwain at ostyngiad mewn gwasanaeth mewn rhai ardaloedd, a bydd rhai cymunedau'n cael eu heffeithio’n negyddol.
Trafodais y cynigion gyda'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, gan ei bod wedi siarad yn ddiweddar am ei huchelgais i drawsnewid gwasanaethau bysiau mewn ardaloedd gwledig.
Dywedais wrth y Prif Weinidog fod etholwyr wedi bod yn cysylltu â mi yn dilyn pryderon na fydd rhai gwasanaethau yn parhau mwyach. Mae llawer o bobl yn dibynnu ar wasanaethau fel y gwasanaeth X75 rhwng Llanidloes ac Amwythig, a gwasanaethau rhwng Croesoswallt a'r Trallwng, i fynychu apwyntiadau meddygol a theithio i'r gwaith.
Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad yma: Powys Local Bus Network Consultation | Have Your Say Powys
Dathlu Cynnyrch Lleol
Roeddwn yn falch iawn o gael fy ngwahodd i fynychu Wythnos Brecwast Ffermdy flynyddol Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), gan hefyd nodi 70 mlynedd ers ffurfio'r undeb ym 1955.
Ymroddiad llu o deuluoedd ffermio gweithgar yw conglfaen Sir Drefalwdyn, ac mae Wythnos Brecwast Ffermdy yr FUW yn ffordd wych o ddod â phobl ynghyd i ddathlu hyn a hyrwyddo bwyd lleol.
Roedd yn wych mwynhau brecwast a oedd yn cynnwys cig a gyflenwyd gan Graig Farm Organics, pwdin gwaed gan Gigyddion Williams o Lanidloes ac wyau o Wyau Tyn Celyn, Dolwen. Hoffwn ddiolch i'r FUW am drefnu ymgyrch gwerth chweil.
Mae heriau sylweddol yn wynebu'r diwydiant ac mae digwyddiadau fel hyn sy'n arwain at drafodaethau anffurfiol rhwng undebau’r ffermwyr, ffermwyr lleol, a gwleidyddion, yn hanfodol.
Cymorthfeydd Galw Heibio
Daeth dros 50 o bobl i'm digwyddiad Galw Heibio a gynhaliwyd yn Neuadd Gyhoeddus Llanrhaeadr ar 24 Ionawr. Roedd y materion a godwyd yn cynnwys pryderon ynghylch cynigion ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd, a gallwch ddarllen mwy am y materion hyn yn https://www.russellgeorge.com/campaigns/concern-creation-national-park.
Rwy'n cynnal cymorthfeydd yn fy swyddfa yn y Trallwng a'r Drenewydd bron bob dydd Gwener. Os hoffech gwrdd â mi, cysylltwch â mi i wneud apwyntiad.
Byddaf yn cynnal cymhorthfa galw heibio yn neuadd bentref Caersws ddydd Gwener 21 Chwefror rhwng 4.30 a 6.30, does dim angen apwyntiad. Os hoffech gwrdd â mi yn unrhyw un o'r ardaloedd eraill isod, mae croeso i chi gysylltu.
Hyrwyddir gan Russell George AS, 13 Parkers Lane, Y Drenewydd, SY16 2LT
Mae costau'r cyhoeddiad hwn wedi’u talu gan Gomisiwn y Senedd o arian cyhoeddus.
Ydych chi eisiau newid sut rydych chi'n derbyn yr e-byst hyn?
Gallwch chi update your preferences o'r unsubscribe from this list.