View this email in your browser
Cylchlythyr Tachwedd 2024
Croeso i’m cylchlythyr ar gyfer mis Tachwedd 2024
Rydw i wedi cynnwys sawl diweddariad yn fy nghylchlythyr y mis hwn, ond roeddwn i hefyd eisiau sôn, yn dilyn cyhoeddiad Nidec / Control Techniques bod 65 o weithwyr yn wynebu colli eu swyddi, fy mod wedi ceisio cyfarfod â Nidec, yn ogystal â chodi’r mater yn y Senedd. Os yw’r newyddion hwn yn effeithio arnoch chi neu aelod o’ch teulu, byddwn i’n falch iawn o gael cyfarfod gyda chi.
Fel arfer, os hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am rywbeth nad yw wedi rhoi sylw iddo yn fy nghylchlythyr i, neu os gallaf eich helpu mewn ffordd arall, anfonwch e-bost ataf yn [email protected] neu ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887.
Newyddion am Lein y Cambrian
Hoffwn gydymdeimlo â theulu Tudor Evans, a fu farw yn anffodus yn dilyn y ddamwain drên drasig ger Llanbrynmair, a hefyd â’r rhai sydd wedi’u hanafu. Yn amlwg, mae llawer o gwestiynau ynghylch sut digwyddodd y ddamwain hon, ond am y tro, mae’n bwysig bod yr ymchwilwyr yn cael gwneud eu gwaith. Diolch i’r holl wasanaethau brys a fu’n cynorthwyo.
Ar bwnc Lein y Cambrian, rydw i wedi sôn am yr oedi cyn cyflwyno’r fflyd newydd a’r ymrwymiad i gyflwyno gwasanaeth bob awr rhwng Aberystwyth a’r Amwythig.
Rwy’n dal i glywed y bydd y trenau newydd yn gallu cludo mwy o deithwyr ac y byddan nhw hefyd yn rhedeg yn gyflymach. Bydd hyn yn caniatáu i wasanaethau gwrdd â’r amserlen yn fwy dibynadwy, ond rydyn ni’n dal i aros amdanyn nhw.
Y wybodaeth a gefais yn wreiddiol oedd y byddai’r stoc rheilffyrdd newydd ar gael i’w defnyddio yn 2023, a gohiriwyd hynny tan y gaeaf yn 2024. Yn fwy diweddar, rydw i wedi cael gwybod na fydd y stoc newydd ar gael tan ddiwedd 2025. Mae’n siomedig iawn pan mae rhannau eraill o’r wlad eisoes yn defnyddio’r trenau newydd.
Pan godais hyn gyda’r Prif Weinidog, dywedodd wrthyf y bydd gwasanaeth bob awr o fisoedd yr haf rhwng Aberystwyth a’r Amwythig o 2026.
Achos Ambiwlans Awyr yn yr Uchel Lys
Cafwyd newyddion i’w groesawu fis diwethaf ar yr Ymgyrch i herio’r newidiadau i Wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru, sy’n cynnwys cau canolfan y Trallwng. Mae’r Uchel Lys wedi rhoi caniatâd i’r achos fynd ymlaen i wrandawiad llawn, sy’n golygu bod y Barnwr wedi cytuno bod modd dadlau’r achos.
Fel ymgyrchwyr, roedden ni’n credu bod penderfyniad Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru ym mis Ebrill i gau a chanoli canolfannau Ambiwlans Awyr y Trallwng a Chaernarfon yn sylfaenol anghywir, ac fel grwpiau ymgyrchu yn y ddwy ardal, rydyn ni wedi bod yn cydweithio i herio’r penderfyniad.
Bydd Adolygiad Barnwrol yn caniatáu i farnwr ail-werthuso’r broses o wneud y penderfyniad, a chredaf y byddai’n dod â thryloywder a gwrthrychedd mawr ei angen ac yn archwilio i ba raddau y mae’r broses yn cyflawni canlyniad a oedd wedi’i benderfynu ymlaen llaw.
Codi Newidiadau Iechyd ym Mhowys gyda’r Prif Weinidog
Russell George AS yn codi’r newidiadau yn Ysbyty Llanidloes gyda’r Prif Weinidog.
Ym mis Hydref, cymeradwyodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys gynigion i wneud newidiadau dros dro i rai wasanaethau mân anafiadau a gwasanaethau wardiau yn y sir. Mewn cyfarfod cyhoeddus o’r Bwrdd, fe wnaeth yr aelodau gymeradwyo argymhellion a oedd yn cynnwys newid dros dro i’r model ar gyfer gofal cleifion mewnol yn Llanidloes.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd y dylid cyflwyno cynigion dros dro am gyfnod o 6 mis. Bydd amserlen ar gyfer gweithredu nawr yn cael ei chytuno arni, gyda disgwyl i’r ddau newid fod ar waith erbyn mis Rhagfyr.
Yn ystod cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn Llanidloes ym mis Awst, lle daeth cannoedd o aelodau o’r gymuned i fynegi eu pryder, nid dim ond pryderon y cyhoedd a gwleidyddion lleol a glywyd, ond hefyd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys meddygon teulu presennol a chyn-feddygon teulu, a oedd yn gwrthwynebu newidiadau arfaethedig y bwrdd iechyd yn chwyrn.
Codais y mater hwn yn y Senedd, gan ofyn am safbwynt y Prif Weinidog ar y mater ac i dynnu sylw at y ffaith ei fod wedi’i gynnig oherwydd sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd.
Gwaith yn Ysbyty Brenhinol Amwythig
Mae gwaith adeiladu yn Ysbyty Brenhinol Amwythig wedi bod ar y gweill ers rhai misoedd. Mae’r gwaith yn rhan o’r cynlluniau ehangach i Ysbyty Brenhinol Amwythig ddod yn brif ganolfan ysbyty damweiniau ac achosion brys sy’n gwasanaethu gogledd Powys, Swydd Amwythig, a Telford a Wrekin.
Mae’r gwasanaethau sydd wedi’u cynllunio yn fwy sylweddol nag adran damweiniau ac achosion brys safonol. Mae’r cynlluniau hefyd yn golygu bod gwasanaeth cleifion mewnol dan arweiniad meddygon ymgynghorol ar gyfer menywod a phlant yn dychwelyd i’r Amwythig. Mae adran y pen a’r gwddf, gofal critigol a’r uned strôc hefyd yn dychwelyd i’r Amwythig.
Bydd y newidiadau yn golygu y bydd Ysbyty Brenhinol Amwythig yn arbenigo mewn Gofal Brys a bydd Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol yn Telford yn dod yn ganolfan Gofal a Gynlluniwyd. Bydd canolfan Gofal Brys 24 awr yn y ddau safle.
Cau’r A470 yn Nhalerddig
Russell George AS yn codi’r Rhwydwaith Cefnffyrdd gydag Ysgrifennydd y Cabinet.
Mae gwir angen y gwaith atgyweirio ar yr A470 yn Nhalerddig a hynny ar unwaith. Fodd bynnag, y pryder i mi, y gymuned a’r busnesau yr effeithir arnyn nhw yw cau’r ffordd yn llwyr am hyd at saith wythnos. Mae’r gwyriad swyddogol yn 70 milltir, a fyddai’n achosi aflonyddwch sylweddol, ac anhrefn o bosib ar ffyrdd llai.
Ar ôl trafod y mater yn y Senedd yr wythnos diwethaf, mae Gweinidog y Cabinet wedi cyhoeddi y bydd y gwaith yn cael ei ohirio tan y flwyddyn newydd. Ein gobaith yw y bydd yr oedi hwn hefyd yn caniatáu i’r Llywodraeth ystyried opsiynau eraill, megis gweithio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos i gwblhau’r gwaith yn gynt neu ystyried opsiynau eraill i gadw un lôn ar agor yn ystod oriau gwaith.
Ystâd Fferm Sir Powys
Roeddwn i’n falch o siarad mewn dadl Ceidwadwyr Cymreig ar Ffermydd sy’n Eiddo i Gyngor. Mae ystadau fferm cyngor yn darparu ffordd werthfawr iawn i lawer o ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid i’r sector gael mynediad i’r diwydiant, ac os nad oedd y rhwydwaith o ffermydd cyngor ar waith, yna byddai’r llwybr hwn ar gyfer cychwyn ar yrfa ym myd ffermio yn cael ei rwystro i gynifer o bobl, sy’n golygu y byddai llai o ffermwyr yn cynhyrchu bwyd ac yn gofalu am gefn gwlad.
Mae ystadau fferm yn ased gwerthfawr iawn, dylid eu hystyried felly, gan gynnig llif refeniw parhaus posibl i awdurdodau lleol a darparu cam cyntaf hanfodol iawn i’r diwydiant i gynifer o bobl.
Hyrwyddir gan Russell George AS, 13 Parkers Lane, Y Drenewydd, SY16 2LT
Mae costau'r cyhoeddiad hwn wedi’u talu gan Gomisiwn y Senedd o arian cyhoeddus.
Ydych chi eisiau newid sut rydych chi'n derbyn yr e-byst hyn?
Gallwch chi update your preferences o'r unsubscribe from this list.